Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i Dudalen Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

 I ddysgu mwy am yr hyn y mae Tîm Pwysau Iach Cwm Taf Morgannwg yn ei wneud i gefnogi pobl i gyrraedd pwysau iach, ewch i Pwysau Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Deietegwyr Iechyd Cyhoeddus 

Mae Deietegwyr Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg yn darparu amrywiaeth o raglenni rhyngweithiol yn eich cymuned leol, gyda gwybodaeth i helpu gyda chostau byw ac i roi syniadau am ryseitiau newydd i roi cynnig arnyn nhw. I ddysgu mwy, ewch i’w gwefan neu anfonwch e-bost at CTT_Dietetics_Public-Health@wales.nhs.uk

Bwyd Doeth am Oes

Rhaglen ffordd iach o fyw 8 wythnos yw Bwyd Doeth am Oes ac mae’n cefnogi’r bobl hynny a hoffai golli pwysau mewn ffordd iach, bod yn fwy egnïol a datblygu rhwydweithiau cymdeithasol yn eu cymunedau lleol.

Mae’n bosibl cyflwyno sesiynau ochr yn ochr ag ymarfer corff neu sesiynau coginio ymarferol os ydyn nhw ar gael ac mae modd eu cyflwyno naill ai’n rhithiol neu wyneb yn wyneb mewn lleoliadau cymunedol. 

Ap Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd 

Mae gan Ap Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd wybodaeth ddefnyddiol am fwyta’n dda, cadw’n heini a magu pwysau mewn ffordd iach yn ystod beichiogrwydd. Mae chwe adran i weithio drwyddynt yn eich amser eich hun, sydd hefyd yn cynnwys gemau rhyngweithiol, cwisiau ac adnoddau.

Dechrau Coginio

Mae Dechrau Coginio yn rhaglen goginio ymarferol anffurfiol 8 wythnos llawn hwyl sy’n cael ei chynnal mewn lleoliadau cymunedol lleol am 8 wythnos. Nod y sesiynau yw eich cefnogi gyda sgiliau coginio, siopa a chyllidebu ymarferol, gan wneud prydau cytbwys yn fforddiadwy ac yn flasus.

PIPYN

Rhaglen o weithgareddau yw PIPYN yn benodol ar gyfer teuluoedd ag o leiaf un plentyn 3-7 oed sy’n byw yn ardal Merthyr Tudful.

Mae PIPYN yn darparu cefnogaeth ynghylch datblygu arferion teuluol iach ac mae’n cynnwys pynciau fel sgiliau magu plant, bwyta’n iachach ar  gyllideb, cynllunio prydau bwyd, bwyd fforddiadwy, arferion siopa da, ryseitiau iach, amser sgrin, chwarae egnïol, chwarae teuluol a llawer mwy!

Bwyd a hwyl

Mae Bwyd a Hwyl yn rhaglen 12 diwrnod mewn ysgolion sy’n cael ei chynnal yn ystod gwyliau’r haf ar hyn o bryd. Mae’n darparu addysg bwyd a maeth rhyngweithiol, gweithgaredd corfforol, sesiynau cyfoethogi a phrydau iach i blant yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.


HENRY

Mae rhaglen Teuluoedd Iach: O’r Cychwyn Cyntaf (HENRY) yn cael ei chynnal ar draws Cwm Taf Morgannwg ar gyfer rhieni a gofalwyr plant 0-5 oed a gellir ymuno am ddim. Mae’r rhaglen yn cynnwys sesiynau wythnosol 1 awr sy’n cael eu cynnal dros 8 wythnos ac sy’n cefnogi teuluoedd i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w plant.


Mae themâu fel hyder magu plant, arferion ffordd o fyw y teulu, amser bwyd a maeth, gweithgaredd corfforol a chwarae egnïol yn cael sylw yn y sesiynau. I gael gwybod mwy ewch i’w gwefan neu cysylltwch â ni ar HENRY_CTM_PHW@wales.nhs.uk.

Rhaglen Gofal y Cymalau 

Mae Rhaglen Gofal y Cymalau yn rhaglen 12 wythnos yn y gymuned ar gyfer cleifion sydd dros bwysau iach ac sydd â phoen pen-glin cronig a/neu boen clun cronig. Bydd y rhaglen yn eu cefnogi i golli pwysau, bod yn fwy egnïol a gwella eu hiechyd a’u lles yn gyffredinol.

Gwasanaeth Gwella Lles (WISE) 

Mae gwasanaeth WISE (Wellness Improvement Service) yn darparu dull cyfannol naw mis i wella canlyniadau iechyd cyffredinol unigolion. I ddysgu mwy ewch i’w gwefan neu anfonwch e-bost at CTM.WISE@wales.nhs.uk

Cynllun Atgyfeirio Cleifion i wneud Ymarfer Corff Cymru (NERS) 

Mae NERS yn ymyriad iechyd yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n cynnwys gweithgarwch corfforol a thechnegau newid ymddygiad i gefnogi cleientiaid sydd wedi’u hatgyfeirio i wneud newidiadau i’w ffordd o fyw i wella’u hiechyd a’u lles. Mae NERS yn darparu asesiad cychwynnol, adolygiad 4 wythnos a rhaglen ymarfer corff addas am 16 wythnos.

Cynghorau Bwrdeistref Sirol a Sefydliadau Cymunedol 

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd lleol, gallwch ymweld â’ch Cyngor lleol, timau datblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol lleol a gwefannau mudiadau gwirfoddol. 
•    Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr 
•    Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Heini Merthyr Tudful a Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful  
•    Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Chwaraeon RhCT ac Interlink

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor