Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i Dudalen Bwrdd Iechyd Caerdydd a Bro Morgannwg

Gwybodaeth Caerdydd a Bro Morgannwg ar gyfer cynnig digidol Lefel 1

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae Caerdydd a’r Fro a chymunedau yn ei wneud i helpu pobl i gyflawni pwysau iach, edrychwch ar ein gwefan Symud Mwy Bwyta’n Iach.

Gwefan Sgiliau Maeth am Oes
 

Ffynhonnell o wybodaeth am fwyd a maeth, ryseitiau a syniadau yn ogystal â chyrsiau sy'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Sgiliau Maeth am Oes  neu anfonwch e-bost: Nutrition.Skillsforlife.cav@wales.nhs.uk


Gwefan Cadw Fi’n Iach

Ffynhonnell o wybodaeth, adnoddau, fideos coginio a chymorth i'ch cadw'n iach yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cadw Fi'n Iach.

Rhaglen Bwyd Doeth am Oes

Rhaglen grŵp 8 wythnos sy’n helpu pobl i fyw bywydau iachach. Mae'r pynciau sy’n cael eu trafod yn cynnwys meintiau dognau bwyd, labeli bwyd, a gwneud newidiadau y mae modd cadw atynt. Ar gael i unrhyw un dros 18 oed sydd â BMI dros 25. Wedi'i ddarparu'n lleol yn rhan o'r Rhaglen Byw'n Dda. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen yma neu anfonwch e-bost: Nutrition.Skillsforlife.cav@wales.nhs.uk

Bwyd Doeth mewn Beichiogrwydd

Dyma gwrs chwe wythnos i bob menyw yn ystod beichiogrwydd sy’n cynnig gwybodaeth ac awgrymiadau ynglŷn â bwyta'n dda, cadw'n egnïol a chyflawni cynnydd iach yn ei phwysau yn ystod beichiogrwydd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen yma
 

    I gadw lle sganiwch y cod QR isod gyda'ch dyfais neu cliciwch yma.

    neu anfonwch e-bost: Nutrition.Skillsforlife.cav@wales.nhs.uk 
 

 

Prosiect  HAPI (Hapus, Uchelgeisiol, Ffyniannus a Chynhwysol) Caerdydd a'r Fro
 

Mae HAPI yn brosiect iechyd a llesiant a ddarperir gan Gymdeithas Tai Newydd. Mae'r prosiect yn gweithio gyda thenantiaid a phreswylwyr i wella eu llesiant trwy gyflwyno gweithgareddau am ddim trwy nifer o themâu sy’n cynnwys bwyd a maeth a gweithgarwch corfforol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen yma neu anfonwch e-bost: adele.taylor@newydd.co.uk

Symud Mwy
 

Gwefan sy’n llawn awgrymiadau a chynghorion ar sut i fod yn egnïol yn eich bywyd o ddydd i ddydd, boed yn dawnsio o amgylch eich cegin neu'n cymryd y grisiau yn lle'r lifft. Chwiliwch am weithgareddau yn agos atoch chi yng Nghaerdydd, a dechreuwch symud heddiw. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen yma.  

Tîm Byw’n Iach y Fro

Ewch i wefan Tîm Byw'n Iach y Fro i ddarganfod pa gyfleoedd sydd ar gael yn eich ardal chi, o deithiau cerdded llesol i glybiau chwaraeon.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen yma. Neu e-bostiwch: healthylivingteam@valeofglamorgan.gov.uk

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau i’r teulu sy’n cael eu cynnal ledled Caerdydd a Bro Morgannwg isod:

NYLO (Maeth i'ch Un Bach)
 

Rhaglen ffordd iach o fyw a ddatblygwyd ar gyfer teuluoedd â phlant 5 oed ac iau.  Ewch i'r wefan yma eu anfonwch e-bost: Nutrition.Skillsforlife.cav@wales.nhs.uk 

 

AFAL (Teuluoedd Egnïol, Bywydau Egnïol)

Addysg grŵp a chymorth unigol i blant a'u teuluoedd pan fo plentyn dros bwysau iach. Anfonwch e-bost: afal.cav@wales.nhs.uk
 

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor