Croeso i Dudalen Bwrdd Iechyd Abertawe
Mae'r Gwasanaeth Maeth a Dieteteg ym Mae Abertawe yn cynnig ymyriad rheoli pwysau grŵp ar Lefel 2 o Lwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan. Mae'n rhaglen 6 wythnos gyda phob sesiwn 1½ awr yn darparu gwybodaeth i'ch helpu i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch arferion bwyta i'ch helpu i golli pwysau a gwella'ch iechyd.
Gallwch gael eich atgyfeirio ar gyfer ein grŵp rheoli pwysau os yw eich BMI dros 30, neu 28 os oes gennych ddiabetes, pwysedd gwaed uchel neu golesterol uchel. Gall eich Meddyg Teulu, Nyrs Practis neu Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol arall eich cyfeirio.
Fe welwch ragor o wybodaeth i’ch cefnogi yma:
- Dysgwch fwy am fwyta'n iach ar wefan Eat Well y GIG. (Linc Saesneg yn unig)
- Mae cydweithfeydd bwyd yn darparu ffrwythau, llysiau a salad rhad am tua £3-£4. Gall unrhyw un brynu o amrywiaeth o leoliadau.
- Mae gwefan Better Health y GIG yn cynnwys gwybodaeth am golli pwysau, rhoi'r gorau i ysmygu, gweithgaredd ac yfed alcohol. (Linc Saesneg yn unig)
- Gweler: Taflen Ffeithiau Bwyd - Colli Pwysau BDA. (Linc Saesneg yn unig)
- Mae Drinkaware yn elusen annibynnol sy’n gweithio i leihau camddefnydd a niwed alcohol yn y DU. (Linc Saesneg yn unig)
- Cael help i roi'r gorau i ysmygu. Cysylltwch â Helpa fi i stopio yng Nghymru ar 0800 085 2219 (am ddim) neu ewch i'r wefan.