Croeso i dudalen Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Cymorth gyda’m pwysau Gogledd Cymru
Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i oedolion yng Ngogledd Cymru sydd angen colli pwysau am resymau iechyd. Rydym yn cynnig rhaglenni y gallwch gael mynediad iddynt o'ch cartref eich hun neu mewn lleoliadau ar draws Gogledd Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am bwy all ddefnyddio ein gwasanaeth, y rhaglenni rydym yn eu cynnig a sut i gyfeirio eich hun at y gwasanaeth ewch i wefan Cymorth Gyda’m Pwysau.
Gallwch hefyd gwylio'r fideo YouTube isod am fwy o wybodaeth:
Gogledd Cymru Actif
Gallwch hefyd ymweld â gwefan Gogledd Cymru Actif i weld rhestr o weithgareddau sydd ar gael yn yr ardal.