Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i Dudalen Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan 

Symud Mwy a Bwyta'n Iach yng Ngwent

Darganfod ffyrdd o fod yn egnïol, bwyta'n dda a cholli pwysau yng Ngwent. Isod, mae gwybodaeth am grwpiau lleol, gwasanaethau a lleoliadau a all eich cynorthwyo i gyflawni a chynnal pwysau iach. 

Cymorth Grŵp ac ar-lein

Mae grwpiau rheoli pwysau yn cael eu cynnal ledled y pum ardal awdurdod lleol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) i helpu pobl i golli pwysau trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau a rhaglenni bwyta'n iachach. Mae cymorth ar-lein ar gael hefyd.

Cynllun Slimming World

Rhowch eich cod post i ddod o hyd i'ch grŵp Slimming World agosaf yma. (Linc Saesneg yn unig)

Cynllun Weight Watchers

Mae modd dod o hyd i'ch Gweithdy Weight Watchers agosaf yma. (Linc Saesneg yn unig)

Gwasanaeth Rheoli Pwysau BIPAB 

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i oedolion a hoffai gael cymorth i golli pwysau. Bydd y gwasanaethau hyn yn darparu'r wybodaeth, yr offer a'r cymorth sydd eu hangen arnoch i golli pwysau yn llwyddiannus ac mewn modd cynaliadwy gan hybu iechyd a llesiant. Mae’r rhestr aros am gymorth yn un faith ar hyn o bryd, ond os ydych wedi ceisio colli pwysau eich hun (a heb fod yn llwyddiannus) ac angen rhagor o gymorth, yna dilynwch y ddolen isod am fanylion ar sut i gael help gan y gwasanaeth. 

Ewch i dudalen Gwasanaeth Rheoli Pwysau.

Cynghorau Bwrdeistref

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd lleol i fod yn egnïol gallwch hefyd ymweld â gwefan eich Cyngor Bwrdeistref lleol. 

Rhaglen Cysylltu/Connect ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen  

Mae gan Gynghorau lleol 'Gydlynwyr Connect a/neu Lesiant' yn gweithio'n lleol i ailgysylltu pobl â’u cymunedau gan helpu pobl i ddod o hyd i weithgareddau a grwpiau i gymryd rhan ynddynt, neu wasanaethau lleol a all roi cymorth iechyd a llesiant megis banciau bwyd.

Anfonwch e-bost at gydlynwyr Llesiant Blaenau Gwent: communityconnectors@blaenau-gwent.gov.uk

Ewch i wefan Cysylltwyr Cymunedol Caerffili.

Ewch i wefan Cysylltu Torfaen. (Linc Saesneg drwy ragosodiad allanol, mae posib cael dewis Cymraeg)

Anfonwch e-bost at gysylltwyr Cymunedol Torfaen: wellbeing@monmouthshire.gov.uk

 

Ymuno â'r Gymuned

Byddwch y cyntaf i glywed am gynnwys a nodweddion newydd trwy ymuno â'n rhestr bostio. Rhagor